Croeso i Gymwysterau yng Nghymru (QiW)
Mae'r gronfa ddata hon, QiW, dan berchnogaeth a rheolaeth Cymwysterau Cymru, y rheoleiddiwr cymwysterau nad ydynt yn raddau, a'r system gymwysterau, yng Nghymru.
Mae QiW yn cynnwys manylion yr holl gymwysterau sydd wedi'u cymeradwyo neu eu dynodi ar gyfer addysgu yng Nghymru i ddysgwyr dan 19 oed, ac eithrio addysg uwch.
Bydd unrhyw gymwysterau sydd wedi'u cymeradwyo neu eu dynodi gan Cymwysterau Cymru yn gymwys i gael arian gan Awdurdod Lleol neu gan Lywodraeth Cymru. Mae'r arian hwn ar gyfer y darparwr addysg, nid y dysgwr.
Mae'r wybodaeth a gedwir yn QiW yn cynnwys:
- teitlau cymwysterau;
- rhifau cymhwyster;
- enw'r Corff Dyfarnu sydd yn dyfarnu pob cymhwyster;
- dyddiadau mae’r cymhwyster yn cychwyn / gorffen;
- dolenni i wybodaeth bellach am y cymhwyster;
- Gwybodaeth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:
- a yw'n cyfrif fel dewis ar gyfer Llwybrau Dysgu 14-19;
- gwybodaeth mesurau perfformiad;
Bydd QiW yn eich galluogi chi i:
- chwilio a gweld cofnodion y cymhwyster;
- arbed eich chwiliadau;
- cymharu gwybodaeth am gymwysterau;
- allforio data cymhwyster;
- arbed data cymhwyster;
- argraffu data cymhwyster;
Mesurau Perfformiad Ysgolion - Rolau a Chyfrifoldebau
Noder fod Llywodraeth Cymru yn pennu polisi ar fesur perfformiad ysgolion ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â dyrannu gwerthoedd cyfraniadol cymwysterau, pwyntiau perfformiad a'r codau diystyru a gymhwysir i gymwysterau unigol. Mae QiW yn cynnal y wybodaeth hon. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â sut mae cymwysterau yn cyfrannu at fesurau perfformiad, gan gynnwys gwerthoedd cywerth TGAU/Safon Uwch, pwyntiau perfformiad neu godau diystyru, cysylltwch ar ims@gov.wales.
Rhif Cymeradwyo/Dynodi Cymhwysterau Cymru
Mae QiW yn system annibynnol nad yw'n ddibynnol ar RITS/The Register. Bydd pob cymhwyster yn QiW yn cael ei ddyrannu rhif adnabod unigryw a elwir Rhif Cymeradwyo/Dynodi Cymhwysterau Cymru. Dyler canolfannau ddefnyddio'r rhif yma yn unig tra'n gwneud dewisiadau cwricwlwm.
Nodwch: bydd cymhwysterau sydd ar gael yng Nghymru YN UNIG yn derbyn Rhif Cymeradwyo/Dynodi CC YN UNIG.