Croeso i Gymwysterau yng Nghymru (QiW)

Mae'r gronfa ddata hon, QiW, dan berchnogaeth a rheolaeth Cymwysterau Cymru, y rheoleiddiwr cymwysterau nad ydynt yn raddau, a'r system gymwysterau, yng Nghymru.

Mae QiW yn cynnwys manylion yr holl gymwysterau sydd wedi'u cymeradwyo neu eu dynodi ar gyfer addysgu yng Nghymru i ddysgwyr dan 19 oed, ac eithrio addysg uwch.

Bydd unrhyw gymwysterau sydd wedi'u cymeradwyo neu eu dynodi gan Cymwysterau Cymru yn gymwys i gael arian gan Awdurdod Lleol neu gan Lywodraeth Cymru. Mae'r arian hwn ar gyfer y darparwr addysg, nid y dysgwr.

Mae'r wybodaeth a gedwir yn QiW yn cynnwys:

  • teitlau cymwysterau;
  • rhifau cymhwyster;
  • enw'r Corff Dyfarnu sydd yn dyfarnu pob cymhwyster;
  • dyddiadau mae’r cymhwyster yn cychwyn / gorffen;
  • dolenni i wybodaeth bellach am y cymhwyster;
  • Gwybodaeth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:
    • a yw'n cyfrif fel dewis ar gyfer Llwybrau Dysgu 14-19;
    • gwybodaeth mesurau perfformiad;

Bydd QiW yn eich galluogi chi i:

  • chwilio a gweld cofnodion y cymhwyster;
  • arbed eich chwiliadau;
  • cymharu gwybodaeth am gymwysterau;
  • allforio data cymhwyster;
  • arbed data cymhwyster;
  • argraffu data cymhwyster;

Mesurau Perfformiad Ysgolion - Rolau a Chyfrifoldebau

Noder fod Llywodraeth Cymru yn pennu polisi ar fesur perfformiad ysgolion ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â dyrannu gwerthoedd cyfraniadol cymwysterau, pwyntiau perfformiad a'r codau diystyru a gymhwysir i gymwysterau unigol. Mae QiW yn cynnal y wybodaeth hon. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â sut mae cymwysterau yn cyfrannu at fesurau perfformiad, gan gynnwys gwerthoedd cywerth TGAU/Safon Uwch, pwyntiau perfformiad neu godau diystyru, cysylltwch ar ims@gov.wales.

Rhif Cymeradwyo/Dynodi Cymhwysterau Cymru

Mae QiW yn system annibynnol nad yw'n ddibynnol ar RITS/The Register. Bydd pob cymhwyster yn QiW yn cael ei ddyrannu rhif adnabod unigryw a elwir Rhif Cymeradwyo/Dynodi Cymhwysterau Cymru. Dyler canolfannau ddefnyddio'r rhif yma yn unig tra'n gwneud dewisiadau cwricwlwm.

Nodwch: bydd cymhwysterau sydd ar gael yng Nghymru YN UNIG yn derbyn Rhif Cymeradwyo/Dynodi CC YN UNIG.

}
Cymwysterau Cymru Adeilad Q2, Lôn Pencarn, Parc Imperial, Coedkernew Casnewydd NP10 8AR Cyfarwyddiadau Yn agor mewn ffenestr newydd
I Google Maps gyda'r cyrchfan wedi rhagosod